Pont Dol-gau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Pont Dol-gau ar y lôn gefn sydd yn troi oddi ar brif stryd pentref Llanllyfni heibio i ystad Bryn Rhedyw; mae'n cymryd ei henw o fferm Dol-gau sydd wrth law'r bont. Mae'r bont yn croesi Afon Crychddwr nid nepell o'r fan lle mae hi'n ymuno ag Afon Llyfni. Gellir dychmygu fod y lôn hon wedi bod yn bwysicach nag y mae heddiw, gan ei bod yn arwain at ganol y plwyf, a dichon bod y bont yn weddol hen, efallai'n dyddio hyd yn oed o'r 18g. Yn sicr, roedd hi yno ym 1898 pan wnaed arolwg gan yr Arolwg Ordnans.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma