Pont Dafarn Dudur
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Pont Dafarn Dudur yn cael ei henwi ar fapiau Ordnans o 1901 ymlaen, wrth fynedfa fferm Tafarn Dudur ar yr hen lôn bost rhwng Caernarfon a Phen-y-groes. Mae'n croesi nant sydd yn codi yng nghorsydd Uwchlaw'r-rhos ac yn llifo i Afon Llifon ger Coed Tŷn-rhos, un o blanhigfeydd Parc Glynllifon. Prin y bydd teithiwr yn sylwi ar y bont wrth fynd drosti, gan ei bod yn fwy o gwlfert nag o bont sylweddol.