Pont Crywiau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Pont Crywiau yw'r bont droed dros Afon Llyfni ar y llwybr o ben gorllewinol eithasf pentref Tal-y-sarn i bentref Llanllyfni heibio i Gaer Engan. Dywedir i ddynion ifanc arfer ymgasglu yno gyda'r nos i siarad a chymdeithasu. Mae'r enw'n cyfeirio, mae'n debyg, at gryw neu grywiau yn yr afon, sef cawell i ddal pysgod ger rhyd neu gored, neu'r gored ei hun - yr un gair, meddir, ag sydd yn enw'r dref Saesneg, Cryw neu "Crewe".
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma