Mary Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mary Glynn (1633-1676) oedd etifeddes ystad Lleuar. Merch hynaf William Glynn, Lleuar (1613-1660) a'i wraig Jane Bryncir ydoedd.

Roedd y teulu o dueddfryd gwrth-frenhinol, gan gefnogi'r Senedd yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig (1642-8), ac nid oedd yn syndod felly pan briododd â George Twisleton, milwr yn llu'r Senedd a hanai o lannau Humber yn Swydd Efrog. Bu teulu Twisleton yn berchen ar Lleuar am bron i ganrif nes i'r Capten William Ridsdale (marw 1743), gŵr Mary Twisleton, gor-wyres Mary Glynn, werthu'r hyn oedd ar ôl o Ystad Lleuar i Syr John Wynn, Glynllifon.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.270