Llwyn Cwla

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar fap rhagbaratoawl Dawson ar gyfer Arolwg Ordnans 1816-20 lleolir Llwyncwla rywle rhwng Bethesda Bach a Llandwrog. Mae tŷ o'r enw Llwyn yn ardal Bethesda Bach heddiw, ac mae posibilrwydd mai Llwyn Cwla oedd enw gwreiddiol yr annedd ar y llecyn hwnnw.

Ceir cyfeiriad at Llwyn Cwlla ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Arhosodd yr ail elfen, cwla, yn bur ddigyfnewid drwy'r blynyddoedd er yr amrywia'r sillafiad gryn dipyn yn asesiadau'r Dreth Dir. Ceir y cyfeiriad olaf yn cynnwys yr elfen cwla ym 1834 yn llyfr treth plwyf Llandwrog. Mae dwy ystyr i'r ansoddair cwla. Yn Arfon fe'i defnyddir i ddisgrifio rhywun gwael a bregus ei iechyd, ond gall olygu rhywbeth gwantan a gwachul yn gyffredinol. Gallai gyfeirio efallai at lwyn gwywedig yma felly. Ar y llaw arall mae yna bosibilrwydd mai enw personol sydd y tu ôl i'r ffurf. Cyfeirir at un Robert Culla yng nghofnodion trafodion y llys yng Nghaernarfon ym 1362 ac ym 1369 cyfeirir at Ieuan ap Ken' [Cynwrig] Culla. Nid oes awgrym mai pobl o ardal Llandwrog oedd y rhain, ond mae'n dangos fod Cwla yn enw neu'n llysenw a fodolai ar un adeg nid nepell o'r ardal hon.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.195-6