Katie Wyn Jones
Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd Katie Wyn Jones (1921-2005) o fferm Cefn Hengwrt, ger pentref Llandwrog.
Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd iddi ddioddef cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.[1] Mae sawl crynoddisg ohoni'n canu ar gael.
Er nad oedd wedi dilyn gyrfa fel actores, bu'n chwarae rhan y fam yn y ffilm fer A Letter from Wales a ryddhawyd ym 1953, gyda'i phlant ei hun yn chwarae rhannau rhai o'r plant yn y ffilm hefyd.[2]