John Hartmann

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd John Hartmann (1830-1897) yn fab i ffarmwr yng ngwlad Prwsia. Serch ei wreiddiau diarth, cafodd ran mewn codi safonau cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle.

Gan fod John Hartmann yn dod o deulu cerddorol, dewisodd le fel cerddor yn ystod ei gyfnod o wasanaeth milwrol. Ni chafodd brofiadau da yn y fyddin Brwsiaidd, fodd bynnag, a symudodd i Loegr, lle bu'n arweinydd band sawl catrawd yn y Fyddin Brydeinig. Oherwydd newid yn y rheolau'n ymwneud â bandfeistri'r fyddin, bu'n rhaid iddo ymddeol o'i waith gyda'r milwyr. Ar ôl dychwelyd i'r Almaen a methu setlo, dychwelodd i wledydd Prydain lle bu'n arwain a hyfforddi nifer o fandiau,[1] ac yn eu mysg, Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, a hynny o ganol y 1870au hyd y 1890au. Ym 1888, er enghraifft, arweiniodd Hartmann Fand Nantlle mewn perfformiad ar bier Llandudno yn ystod y ffair Fenisaidd a gynhaliwyd ym mis Medi'r flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd yn hyfforddi'r band ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.[2]

Ar un achlysur o leiaf, bu'n rhoi cymorth i fandiau eraill y dyffryn. Ceir sôn fod Seindorf Dulyn wedi cystadlu ym 1877 yn Abergynolwyn dan ei arweiniad ef. Hyfforddwr proffesiynol Seindorf Dyffryn Nantlle gerllaw oedd Hartmann wrth gwrs, ond gofynnodd Seindorf Nebo iddo eu hyfforddi a'u harwain hwythau hefyd. Yr unig ffordd bosib i hynny ddigwydd oedd iddo fod gyda Seindorf Nantlle o 6.30 tan 9.00 bob nos, ac yna gyda Seindorf Nebo o 10.00 tan un o'r gloch y bore. Ac felly y bu.

Ar ôl iddo ddychwelyd i wledydd Prydain, yn ogystal â hyfforddi chwaraewyr offerynnau pres, bu'n trefnu a chyfansoddi darnau ar gyfer nifer o gyhoeddwyr cerddoriaeth.[3] Ceir sôn yn y wasg bod nifer o'r gweithiau hyn wedi cael eu perfformio mewn eisteddfodau a chyngherddau ar draws Cymru.

Yn ôl y Cyfrifiad, bu'n byw gyda'i deulu yn Llundain rhwng 1881 ac 1891[4] ond bu farw yn Lerpwl ym 1897.[5]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Bandsman, [1], cyrchwyd 27.11.2022
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 31.8.1888, t.6
  3. Erthygl Wikipedia ar John Hartmann, [2], cyrchwyd 27.11.2022
  4. Cyfrifiad Battersea, 1881 a Lewisham 1891
  5. Wikipedia, loc. cit.