John Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd John Glynn (tua 1644-1685), yr olaf o sgweieriaid Ystad Glynllifon i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig fab i Thomas Glynn, AS a botanegydd, a'i wraig Ellen, o gwmpas y flwyddyn 1644. Cafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 a bu dan warchodaeth ei ewyrth, Edmund Glynn. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed. Roedd ganddo un chwaer, Catherine Glynn, a briododd â Richard Bulkeley o Borthamel, ac wedyn ar ôl ei farwolaeth ef, Rowland Wynn o'r Pengwern, Llanwnda.

Chwaraeodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9, and yn ynad heddwch o 1670 ymlaen. Priododd ag Elizabeth Owen, merch Syr Hugh Owen, barwnig cyntaf Orielton, Sir Benfro (bu farw 1670), AS dros Sir Benfro, 1626-60, a oedd hefyd â thiroedd yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Cawsant ddwy ferch (Ellen a Frances) ond dim mab, ac felly pasiodd etifeddiaeth ystad Glynllifon i'r hynaf, Ellen Glynn, a fu farw ym 1711 yn 34 oed; priododd Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, ond gan na phriododd Ellen, yn y diwedd fe unwyd ystadau Glynllifon a Boduan. O hynny ymlaen a hyd heddiw, Wynn fyddai cyfenw teulu Glynllifon.[1] Nid hon oedd yr Ellen Glynne a sefydlodd elusendai Llandwrog, sef Ellen Glynne o Elernion, perthynas o bell i deulu Glynllifon, a fu farw ym 1727.

Bu farw John Glynn ym 1685 ac mae ei ewyllys ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Etifeddodd Ellen Glynn ei ferch hynaf ei holl diroedd yn siroedd Caernarfon a Môn, heblaw am Gwm Ceiliog, Cae'r Gors, Bronmiod, Bodelfarch, Tyddyn y Coch, Tyddyn y felin, Y Ffridd Wen, Tyddyn y Llan a Melin yr Ynys Goch ar ochr ddeheuol Mynydd Bwlch Mawr, a oedd i'w gwerthu i dalu unrhyw ddyledion a chostau, ac unrhyw swm o arian hyd at £1500 oedd yn weddill i Frances. Gadawodd £10 i'w chwaer Catherine a oedd, y pryd hynny, yn dal yn briod â Richard Bulkeley, Porthamel. Gadawodd ddeg swllt i Eglwys Gadeiriol Bangor ac ugain swllt (sef punt) yr un i eglwysi Llanaelhaearn a Llandwrog. Ymysg y tystion oedd ei gefnder a'i gyd-ynad, George Twisleton (yr ail) o'r Lleuar Fawr.[2]

Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'i gymydog, John Glynne o'r Plas Newydd a fu farw ym 1681.[3]


Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1685-45
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1681-47