Gorymdaith y Merched dros Heddwch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o'r digwyddiadau hanesyddol mwyaf ei effaith a welwyd yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1920au oedd Gorymdaith y Merched dros Heddwch, a gychwynnodd ym Mhen-y-groes.

Ymgasglodd dwy fil o ferched o nifer o bentrefi Dyffryn Nantlle ar Fai 27ain 1926, gyda nifer yn cario baner las heddwch. Dyma ddechrau eu hymwneud amlwg â’r Bererindod Heddwch a fyddai’n dod i ben yn ddiweddarach y flwyddyn honno, mewn gwrthdystiad enfawr yn Hyde Park yn Llundain. Dros y pum niwrnod canlynol teithiodd nifer o’r grŵp 150 milltir mewn ceir a siarabangs i ymuno â grwpiau eraill o fenywod yng Nghaer. Ar hyd y ffordd fe wnaethant aros i siarad â thyrfaoedd. Cynhaliwyd cyfarfod mawr yn adfeilion castell Conwy. Aethant ymlaen trwy Fae Colwyn a'r Rhyl, gan gynnal cyfarfodydd mewn sawl lle, pymtheg cyfarfod i gyd. Ymunodd llawer â nhw gydag eraill yn eu hannog ar eu ffordd. Canwyd emynau heddwch Cymraeg a Saesneg yn mhob cyfarfod. Cymerodd 28 o Bererinion Gogledd Cymru ran yn y gwrthdystiad o 10,000 o bobl yn Hyde Park. Roedd 22 llwyfan o siaradwyr. Dau o'r siaradwyr oedd Mrs Gwladys Thoday (o Lanfairfechan) a Mrs Silyn Roberts; siaradodd yr olaf yn Gymraeg. Yn ddiweddarach fe’u penodwyd yn ysgrifenyddion Cymraeg a Saesneg eu hiaith ar Gyngor Heddwch Merched Gogledd Cymru. Dim ond ym mis Ebrill 1926 yr oedd cynllunio ar gyfer Pererindod Gogledd Cymru wedi dechrau, a hynny gan grŵp bach gyda chyllid o ychydig sylltau. At ei gilydd, roedd hanner cant o drefi neu bentrefi yn cymryd rhan, llawer o enwadau crefyddol a phob plaid wleidyddol. Yn fuan ar ôl y bererindod ffurfiwyd Cyngor Heddwch Merched Gogledd Cymru.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Arming All Sides, [1], cyrchwyd 9.10.2023