Catherine Bulkeley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl yr hanes roedd Catherine Bulkeley (neu "Catrin") o Eithinog yn gariad i Rhys o Elernion. Un diwrnod, a Rhys yn marchogaeth i gyfarfod Catrin, cododd storm enbyd. Mentrodd rydio Afon Llyfni ond roedd y llifeiriant yn rhy gryf iddo a'r gwynt yn ei erbyn. Methodd yn glir â chyrraedd y lan ac fe'i boddwyd yn y fan a'r lle er mawr drallod i bawb ac i Catrin yn arbennig. Boed hynny fel y bo, mae'r unig ffynhonell sy'n sôn amdani, sef llythyr at yr ynadon dyddiedig 1611 lle mae hi'n cynnig arian i godi pont dros y rhyd yn Afon Llyfni, yn dangos ei henw hi fel "Katherine Bulkley o Edern, gweddw". Mae ei llawysgrifen yn ddigon glir fel nad oes modd ei gamddarllen. Os oedd hi'n byw ar ryw adeg yn Eithinog, erbyn 1611 roedd hi yn Edern.

Yn ddiweddarach codwydy bont (sef Pont y Cim) ar y safle y digwyddodd y trychineb ac arni'r ysgrifen: "Catring Buckle hath give twenty poundes to mack this brighe 1612".

Yng nghyflawnder yr amser gwisgodd yr ysgrifen a phenderfynodd Ysgol Brynaerau osod llechen ar ganllaw'r bont a thorrwyd y llythrennau gwreiddiol uchod arni i gofnodi'r hanes.

Cyfeiriadau

W. Ogwen Williams, The County Records, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), tt,66-7