Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr
Roedd Ysgol Sul o 80 o aelodau yng Nghlynnog pan agorwyd Ebeneser (MC) ym 1844 â 43 o aelodau (32 ohonynt yn aelodau yn y Capel Uchaf (1761-2000) – capel Robert Roberts, (y seraff bregethwr), 10 yn Nghapel Seion (MC), Gurn Goch ac un o le arall. Cafwyd yr oedfa gyntaf yn y capel newydd ar 18 Medi 1844.
Fe'i henwyd yn Ebeneser o barch i Ebenezer Thomas (Eben Fardd), (1802-1863). Fe’i gwahoddwyd i gadw ei ysgol ddyddiol yma a ddatblygodd i fod yn ysgol ragbaratoawl i weinidogion ym 1863. Caeodd ym 1929.
Codwyd Tŷ Capel ym 1861 ac Ysgoldy a Thŷ’r Prifathro (Afallon) ym 1863. Gwerthwyd yr Ysgoldy a’r Tŷ Capel yn 2005 i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymunodd y capel â gofalaeth Bro Lleu yn 2010. Gwerthwyd Afallon i fewnfudwyr o Loegr yn 2012.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma