Cae'r Foty Bach, Trefor
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Tyddyn bychan oedd Cae'r Foty Bach, Trefor, a safai ar sawdl Garnfor (Mynydd Gwaith), y mwyaf gorllewinol o fynyddoedd Yr Eifl, sydd "â'i ben yn y cymyl a'i draed yn yr heli".
Erbyn tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg aeth y tŷ a'r rhan fwyaf o'r tir o'r golwg gan yr isaf o domennydd anferth Chwarel yr Eifl.
Ni fu unrhyw olwg nac arwydd o'r lle byth ers hynny.