Bwlch y Gylfin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bwlch y Gylfin yw'r bwlch rhwng Clogwyn y Garreg a'r Garn y rhed y ffordd drosto rhwng Dyffryn Nantlle a Rhyd-ddu. Bron ar dop y bwlch ar ochr Rhyd-ddu, mae Llyn y Dywarchen ac adfeilion hen ffermdy Drws-y-coed Uchaf, lle croesawyd y cenhadon Morafaidd (gweler Morafiaid Drws-y-coed) a ddaeth yno yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. (Mae ffermdy presennol Drws-y-Coed Uchaf wedi ei symud gryn bellter i ffwrdd i lawr y dyffryn i gyfeiriad Rhyd-ddu.) Ar y llethr orllewinol, a'i gefn at y mynydd, mae olion bwthyn Clogwyn Brwnt, cartref Y Brodyr Francis.

Efallai mai prif hynodrwydd y bwlch, fodd bynnag, yw'r ffaith ei fod yn sefyll rhwng dwy fferm sy'n rhannu'r un enw: Drws-y-coed Isaf a Drws-y-coed Uchaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau