Aled Jones Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn-offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, llenor a dramodydd Cymraeg/Cymreig yw Aled Jones Williams (ganed ym 1953).[1]

Yn 2002, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tŷ Ddewi gydag Awelon. Cafodd ei lyfr Ychydig Is Na’r Angylion ei enwebu ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Achoswyd cryn ddadlau gan ei ddrama Iesu yn 2008, gan iddo bortreadu Iesu fel merch.

Fe'i ganed yn Llanwnda, yn unig blentyn i ficer y plwyf a'i wraig, R. E. a Megan Williams. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Y Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynychu Prifysgol Bangor lle graddiodd ym 1977. Aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Mihangel, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Fe'i hordeiniwyd i'r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth fe adawodd yr eglwys, daeth yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl gan rannu ei fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl. Yn ystod ei gyfnod yno fe briododd ac mae ganddo ef a'i wraig dri o blant. Erbyn hyn mae'n byw ym Mhorthmadog.

Mae'n awdur toreithiog, ac wedi cyfansoddi o leiaf 10 o ddramâu, ac wedi ysgrifennu 12 o lyfrau o ryddiaith a barddoniaeth.[2]


Cyfeiriadau

  1. Tuchan o flaen Duw. Hunangofiant Aled Jones Williams, Gwasg Carreg Gwalch (2012)
  2. Erthygl Wicipedia, [1], cyrchwyd 22.9.2019