Afon Carrog (Bwlch Derwin)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Afon Carrog yw hen enw a geir mewn dogfennau canoloesol yn cyfeirio at nant sydd yn codi ger Bwlch Derwin ac yn rhedeg tua'r de nes cyrraedd Afon Wen. Mae honno'n rhedeg heibio i Chwilog ac yn llifo i'r môr ger hen orsaf Afon Wen ar lan Bae Ceredigion.
Ni ddylid ei chymysgu â'r Afon Carrog arall yn Uwchgwyrfai, sydd yn rhedeg trwy blwyf Llanwnda.