Penrhyn Mulfran

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Y Snowt)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penrhyn Mulfran yw'r llain denau o dir sych i'r dwyrain o Gaer Belan, sydd yn gweithredu fel morglawdd naturiol hanner ffordd ar draws ceg Y Foryd neu Harbwr Llanfaglan.[1] Ym 1885, cafodd cwmni ffrwydron Nobel brydles am 21 o flynyddoedd ar y safle er mwyn codi storfa a wnaed o gerrig ar gyfer storio ffrwydron yn cynnwys deinameit.[2]

Yn ymestyn o Benrhyn Mulfran mae banc neu stribyn o dywod sy'n sychu ar adegau o drai. Y Snowt yw enw'r gefnen hon o dywod.[3]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan CBHC, [1], cyrchwyd 10.1.2023
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6909
  3. Ifor Dylan Williams, Enwau arfordirol y Fenai yn Gareth Bevan ac eraill (golygyddion), Ar Drywydd Enwau Lleoedd (Tal-y-bont, 2021), t.177