William Evans (Wil Tan-y-Maes)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Wil Tan-y-Maes)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ei gyfrol Beirdd Gwerin Eifionydd dywed Cybi fod William Evans (Wil Tan-y-Maes) (bu farw tua 1903) wedi treulio ei flynyddoedd cynnar yn ardal Llanllyfni cyn ymfudo i'r America tua chanol y 19g., gan ymsefydlu yn Lockport, Illinois. Tua 1877, ysgrifennodd Wil Tan-y-Maes nifer o erthyglau llawn atgofion am Lanllyfni yn ei lencyndod, a'u cyhoeddi yn Y Drych. [1]

Yn ôl Cybi bu farw yn Lockport, Illinois oddeutu 1903 ar ôl treulio tua hanner canrif yn America. Yn fuan wedi ei farw ymddangosodd peth gwybodaeth amdano ac enghreifftiau o'i waith yn y cylchgrawn Cymru, a chyhoeddwyd nifer o'i gerddi yn rhifynnau Awst 1913 o Y Genedl Gymreig. Bu'n cyhoeddi ei waith hefyd yn Y Drych, sef prif gyfnodolyn Cymry America.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Drych, 13.9.1877, t.2
  2. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.97.