Tyrpeg Pant Du

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Tollborth Pant Du)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai giât Tyrpeg Pant Du ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng Clynnog Fawr a Rhyd-ddu, ger fferm Pant Du, Pen-y-groes, ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o Ben-y-groes wedi i ffordd newydd gael ei hadeiladu rhwng Pen-y-groes a phentref Tal-y-sarn, a oedd yn dechrau tyfu ar y pryd, a hynny yn ystod y 1850au. Cyn hynny, dim ond Tyrpeg Gelli ger Nantlle oedd yn y dyffryn.

Yr arfer oedd i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon osod pob giât dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Rhwng 1861 ac 1880, cododd rhent blynyddol y dollborth hon o £22 i £80, gan adlewyrchu twf yn y nwyddau a gludwyd ar hyd y lôn. Fe'i caewyd, ynghyd â holl dollbyrth eraill yr Ymddiriedolaeth, ym 1882 pan "ryddhawyd" y ffyrdd, a thynnwyd y giatiau eu hunain i lawr.[1]

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), t.69