Tyrpeg Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Tollborth Clynnog)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tyrpeg Clynnog Fawr yn un o nifer o giatiau a thai tyrpeg a godwyd ar ochr y briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd hon yn ffordd a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon, a ffurfiwyd drwy ddeddf seneddol ym 1768.

Yn wahanol iawn i sawl tŷ tyrpeg a fu ar y ffordd honno, mae tŷ tyrpeg Clynnog yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr rhagorol a rhywun yn byw ynddo. O edrych ar ei gynllun mae'n amlwg mai tŷ tyrpeg ydoedd. Saif ar ochr chwith y ffordd wrth ddod i mewn i bentref Clynnog o gyfeiriad Caernarfon. Mae dros y ffordd i'r hen efail a ger y gyffordd, lle troir i'r chwith i fyny am Gapel Uchaf. Roedd mewn safle da, felly, nid yn unig i godi tâl ar deithwyr, cerbydau ac anifeiliaid a ddeuai ar hyd y briffordd o Gaernarfon neu Bwllheli, ond hefyd y rhai a oedd yn ymuno â'r briffordd o gyfeiriad Capel Uchaf ac ardal Tai'n Lôn. Ym 1832 casglwyd £74 gan geidwad tyrpeg Clynnog. Roedd hyn dipyn mwy na'r £54 a gasglwyd wrth dyrpeg Llanaelhaearn ym 1824, ond yn sylweddol is na'r £168 a gasglwyd wrth dyrpeg Pont Saint, y tu allan i Gaernarfon, ym 1832. Y giât honno oedd un o'r rhai prysuraf ar y briffordd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Moto Coch, Moto Ni, (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2012), t.11.