Thomas Michaeliones (Thomas Michael Jones)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Thomas Michael Jones)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Michaeliones (Thomas Michael Jones yn wreiddiol) (1880-1960) yn offeiriad yn yr Eglwys Anglicanaidd, yn berchennog gwaith aur a dyn ecsentrig.

Fe'i ganed 1 Mai 1880 yn fab i Thomas ac Ellen Michael Jones, 24 Heol y Bedyddwyr, Pen-y-groes. Fe'i bedyddiwyd yn Thomas Michael Jones, yr un enw â'i dad, ond newidiodd ei enw i Thomas Michaeliones yn oedolyn. Bu mewn ysgolion ym Mhen-y-groes a Phorthaethwy gan ddilyn cwrs wedyn fel myfyriwr lleyg yng Ngholeg Diwinyddol yr Annibynwyr yn Aberhonddu (1905-06). Wedi cyfnod byr fel newyddiadurwr, cafodd fedydd esgob a'i dderbyn yn offeiriad gyda'r Eglwys Anglicanaidd. Wedi rhai blynyddoedd o wasanaethu fel curad mewn gwahanol blwyfi, ym 1929 cafodd ei benodi'n rheithor eglwys Beuno Sant ym Mhistyll, Llŷn, gyda gofal dros eglwysi Llithfaen a Charnguwch yn ogystal. Bu'n gwasanaethu yno tan ei farwolaeth ym 1960.

Roedd yn frenhinwr a Phrydeiniwr o argyhoeddiad ac ym 1924 cyhoeddodd dri llyfryn o farddoniaeth Saesneg a'r flwyddyn ddilynol cyfansoddodd benillion i'r 'Union Jack'. Ymddiddorai mewn hynafiaethau a hanes yr Eglwys, a chyhoeddodd nifer o bamffledi ar hanes eglwysi ardal Nefyn yn arbennig. Adnewyddodd eglwys hynafol Pistyll, a oedd wedi mynd i gyflwr gwael, ac ymdrechodd i gadw eglwys anghysbell Carnguwch yn agored. Dywedir y byddai'n aml yn cynnal gwasanaethau yn yr eglwys honno er nad oedd ganddo unrhyw gynulleidfa ond ef ei hun. Roedd yn gymeriad hynod ac ecsentrig ac un o'i ddiddordebau oedd cloddio am aur ar dyddyn Graigwen, a brynodd yn nyffryn Mawddach ym Meirionnydd. Bu'n berchen y gwaith aur yno o 1938 hyd iddo gau ym 1953. Derbyniwyd ei gynnig i gyflenwi'r aur at wneud modrwy briodas y Dywysoges Elizabeth, fel yr oedd bryd hynny.

Newidiodd ei enw i Thomas Michaeliones pan briododd â Janet Chadwick ym 1916. Cawsant dair merch a mab. Yn dilyn marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1940, ailbriododd ym 1942 â Constance Mary Weighill, a ganwyd merch iddynt. Bu ef farw 24 Ebrill 1960 yn ei gartref, Gwerindy, Pistyll. Mae hwnnw'n dŷ trawiadol ei gynllun ar gyrion pentref Pistyll, ond bu'n wag ers blynyddoedd bellach ac mae'n drueni gweld ei gyflwr adfeiliedig.[1]


Cyfeiriadau

1. Gweler erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997), t.140.