Tafarn y Maltster's Arms
(Ailgyfeiriwyd o Tafarn y Malster's Arms)
Roedd Tafarn y Maltster's Arms yn sefyll lle mae ystad newydd o dai yn y Bontnewydd, y tu draw i hen deras Rhes Malsters. Roedd tair rhes o dai ar y safle tua dechrau'r 20g., ond erbyn hyn dim ond y rhes gyntaf sy'n sefyll. Nodir y dafarn ar fapiau Ordnans 25" (1900 a 1918), er dichon iddi gael ei chau tua 1914 pan godwyd cwestiwn iawndal am roi'r drwydded i fyny.[1] Yr oedd hi wedi bod yno ers o leiaf 1865: mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon y flwyddyn honno nodwyd mai William Thomas oedd y tafarnwr.[2]