Pont y Rheithordy
(Ailgyfeiriad o Pont Rectory)
Mae Pont y Rheithordy neu "Pont Rectory" ar dafod leferydd, ym mhlwyf Llanllyfni. Mae hi'n pontio Afon y Felin, sef y nant sy'n llifo o gyfeiriad Rhos-yr-Unman i Afon Llyfni, ar waelod pentref Llanllyfni ger yr eglwys a'r hen felin. Mae'n cario'r hen briffordd A487, sydd bellach ond yn ffordd i Lanllyfni a Nebo. Enw arall a ddefnyddid am y bont oedd "Pont-y-felin".
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma