Pont Ffatri
Saif Pont Ffatri rhwng Pen-y-groes a phentref Llanllyfni ar yr hen briffordd i Dremadog, ger y ffatri wlân ar Afon Llyfnwy. Enw swyddogol y bont yw Pont Llanllyfni.
Mae Ffair Llanllyfni'n dal i gael ei chynnal ac, yn y canrifoedd a fu, dyma oedd un o brif ffeiriau'r sir lle cyflogid gweision am y flwyddyn i ddod. Arferai'r sawl oedd am edrych am le newydd am y flwyddyn ymgaslgu ar y bont hon adeg ffair lle gallent gwrdd â chyflogwyr.[1]
Pont un bwa yw, wedi ei hadeiladu o’r newydd ym 1855, yn lle’r un oedd yno gynt. Mae ei huchder yn 12 troedfedd, ac mae’n 30 troedfedd o un ochr i’r llall. Yr un pryd, fe wnaed cryn welliant i raddiant y ffordd gan leddfu’r oleddf rhwng yr afon a’r pentref. Fe’i hadeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £685.[2] Roedd yr ailraddio'n golygu ailadeiladu 100 llath o ffordd dyrpeg, a achosodd gryn drafferth i syrfewr y prosiect, Richard Owen, gan nad oedd hi wedi ei chwblhau erbyn Rhagfyr y flwyddyn honno.[3]
Mae'r enw lleol ar y bont yn cyfeirio at Ffatri wlân Bryn sydd gerllaw.
Enw'r bont fechan ar waelod gallt pentref Llanllyfni yw Pont y Rheithordy.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma