Topper

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Paladr)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Band Cymreig o Ben-y-groes, oedd Topper. Roedd Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia ymysg y grwpiau a fu'n ddylanwad ar eu cerddoriaeth.

Ym 1992 ffurfiwyd y band Paladr gan Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans.

Ym 1995 rhyddhawyd eu cân gyntaf, sef ‘Dwi'm yn gwbod. Pam?’, gan gwmni Ankst ar ddisg a oedd yn cynnwys nifer o gantorion. Erbyn 1996, roedd y band wedi newid ei enw i Topper a'r flwyddyn ganlynol rhyddhawyd Arch Noa, EP gyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her, y ddwy ddisg ar label Ankst. Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen John Peel a chychwyn ar eu taith gyntaf i hyrwyddo'r albwm Something To Tell Her, gan gefnogi Catatonia. Erbyn hynny roedd ganddynt aelod newydd hefyd, sef Gwion 'Gysglyd' Morus ar yr allweddellau. Ym 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl "Cwpan Mewn Dŵr". Yna ar ddechrau 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Recordiodd y grŵp yr albwm Dolur Gwddw yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench. Hon oedd albwm fwyaf uchelgeisiol y grŵp, a daeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.

Gadawodd Peter Richardson y band yn 2001 i ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fuan wedyn daeth Topper i ben.

Rhyddhawyd y casgliad "Y Goreuon O'r Gwaethaf "ar label Rasal yn 2005.[1]

Cyfeiriadau

  1. Proffil y band gan BBC Cymru, [1]; Erthygl Wicipedia am Topper [2], cyrchwyd 24.10.2022