Cai Larsen

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Olaf Cai Larsen)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penodwyd Olaf Cai Larsen, sydd o dras Cymreig a Norwyaidd fel yr awgryma ei enw, yn brifathro Ysgol Trefor ym 1997 gan olynu Geraint Jones a ymddeolodd o'r swydd bryd hynny. Bu'n gweithredu yn y swydd am bron i ugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn gynnar yn 2016. Yn ystod ei gyfnod fel prifathro parhaodd y cysylltiadau clos rhwng yr ysgol a'r pentref a'r ardal leol; rhoddai gryn bwys hefyd ar dechnoleg gwybodaeth a chwaraeon. Bu'n byw yng Nghaernarfon yn ystod ei gyfnod fel prifathro Trefor. Yn Etholiadau Cyngor Gwynedd ar 4 Mai 2017 fe'i hetholwyd yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Seiont yng Nghaernarfon. Mae'n aelod o nifer o bwyllgorau'r Cyngor, yn eu plith y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, y Pwyllgor Iaith (Is-gadeirydd) a'r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau