Mynydd Craig Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Mynydd Graig Goch)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Mynydd Craig Goch ar ben eithaf mynyddoedd Crib Nantlle rhwng Cwm Dulyn a Chwm-yr-haf yn Eifionydd. Ni chyfrifid ef yn fynydd tan ddechrau'r 21g, gan na chredid ei fod yn cyrraedd uchder mynydd o ryw droedfedd neu ddwy; wrth i arbenigwyr ei ailfesur gydag offer mwy sofistigedig yn 2008, fodd bynnag, canfuwyd ei fod ychydig bach yn uwch nag a tybid gynt, ac yn cyrraedd 2000.49 troedfedd, sef dros yr uchder gofynnol o 2000 tr. iddo gael ei gyfrif yn fynydd.[1]

Yn y Canol Oesoedd, er enghraifft yn Siartrau Aberconwy, cyfeiriwyd at y mynydd hwn fel Llwyd Mawr neu Lwytmor.[2]

Ar odre'r mynydd mae gorsaf drosglwyddo signalau radio a theledu, sef Mast Nebo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar Fynydd Graig Goch, [1]
  2. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.139