Melin Glan-y-môr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhestrwyd Melin Glan-y-môr (sef "Glanymor Mill") ymysg holl eiddo Ystad Glynllifon ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1781, ond er chwilio, ni cheir yr enw ar y map degwm ym 1840, nac ychwaith ar fapiau Ordnans. Dichon, serch hynny, bod yna felin o'r enw hwn ym mhlwyf Clynnog nid nepell o'r traeth.[1] Ceir sôn amdani eto ym 1794.[2]Mewn gweithred ym 1799, fodd bynnag, er i Glan-y-môr gael ei grybwyll, nid oes sôn am felin yno.[3] Tybed felly a ddaeth malu ŷd i ben yno yn ystod ugain mlynedd olaf y 18g.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7265
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/7276
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/4361