Mynwent Macpela

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Macpelah)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynwent Macpela yw mynwent gyhoeddus Pen-y-groes, ac fe'i cynhelir gan Gyngor Cymuned Llanllyfni. Saif ar ochr ogleddol y ffordd sydd yn codi o Ben-y-groes i gyfeiriad Carmel. Mae'n debyg iddi gael ei hagor ym 1879, ac erbyn 1964 roedd 3885 o bobl wedi'u claddu yno.[1]

Nid yw'r rheswm pam y galwyd y fynwent yn Macpela yn amlwg erbyn hyn, gan nad oes capel o'r enw hwnnw yn y cylch. Fodd bynnag, prynwyd ogof o'r enw Machpelah gan Abraham yn ôl llyfr Genesis, er mwyn sicrhau claddfa ar gyfer ei wraig Sarah.

Ymysg y rhai mwyaf nodedig i gael eu claddu yno mae Gwenlyn Parry, a gladdwyd yno ym 1991. Dyn o Ddeiniolen ydoedd, a bu'n athro ym Methesda cyn symud i Gaerdydd, lle priododd â'i ail wraig, Ann Beynon, merch y Cynghorydd Talfryn Jones, Pen-y-groes. Roedd yn un o ddramodwyr amlycaf Cymru yn ail hanner yr 20g, ac yn awdur dramâu fel Y Tŵr, Tŷ ar y Tywod a Saer Doliau.

Mor ddiweddar â 2018-19, gwariodd y cyngor cymuned £81600 i wella'r fynwent a'r llwybrau ynddi.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Y Ffôr [1], cyrchwyd 16.3.2020
  2. Cofnodion Cyngor Cymuned Llanllyfni, Chwefror 2019