James Ebenezer Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Iago Fardd)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd James Ebenezer Thomas (1843-1861) yn unig fab Ebenezer Thomas (Eben Fardd) a Mary ei wraig. Fe'i ganed ef, ynghyd â'i dair chwaer, yng nghartref y teulu, Bod Gybi, ym mhentref Clynnog Fawr. Cafodd addysg dda gan ei dad gartref cyn mynd yn llanc i ysgol yn Holt, ger Wrecsam. Yno datblygodd ei ddoniau, yn arbennig ym maes mathemateg, ac roedd pob argoel fod gyrfa ddisglair o'i flaen. Fodd bynnag, daliodd yr hen elyn marwol bryd hynny, y dicîau, a bu farw'n 18 oed. Mae wedi ei gladdu gyda'i fam ac aelodau eraill y teulu ym mynwent eglwys Beuno Sant yng Nghlynnog, dros y ffordd i'r gofeb drawiadol sydd ar fedd ei dad, Eben Fardd.

Mae rhai o lyfrau gwaith James Ebenezer wedi eu diogelu gyda phapurau ei dad yn Archifau Prifysgol Bangor. Maent yn arbennig o raenus a threfnus ac yn dangos yn amlwg ei fod yn ymdrin â phynciau pur gymhleth ym maes mathemateg, geometreg a morwriaeth o ystyried ei oed. Ac yntau'n fab i un o feirdd amlycaf y cyfnod, fe wnaeth James hefyd ymroi i farddoni er mai ychydig o'i waith a ymddangosodd mewn print. Mabwysiadodd yr enw barddol Iago Fardd. Yn ei gyfrol Beirdd Gwerin Eifionydd dywed Cybi fod peth o'i waith wedi ei ddiogelu gan Fyrddin Fardd o Chwilog a dichon ei fod ymhlith papurau niferus Myrddin yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddwyd ychydig emynau o'i waith mewn cyfrol o emynau ei dad, Eben Fardd, sef Hymnau, a gyhoeddwyd yn Ninbych ym 1862, flwyddyn wedi marw James Ebenezer a blwyddyn cyn marw ei dad. Erbyn hyn mae'r gyfrol fechan hon yn eithriadol o brin. Dyma un emyn a briodolir iddo, sy'n dangos cryn fedr o ystyried ei oed a'i brofiad, ond efallai fod ei dad wedi caboli peth arno:

 Y mae croesaw i droseddwyr
 Ddod yn ôl i dŷ eu Tad;
 Cânt dderbyniad o'r fath oreu,
 Cânt yng Nghrist faddeuant rhad;
     Er mwyn Iesu,
 Gwneir hwy'n berffaith ddedwydd byth. 
 Yn eu hisel radd a'u tlodi,
 Crist a'u cofiodd yn Ei ras;
 A dibrisiodd uchter mawredd,
 Gan gymeryd agwedd gwas;
    Byw a marw
 Wnaeth i'n cyfoethogi ni. 
 Cariad Duw sy'n annherfynol,
 Môr tragwyddol yw, heb drai;
 Dyn yn wrthrych a gymerodd,
 Mynnodd drefn i faddeu bai;
    Beiau filoedd
 A faddeuir drwy y drefn.
 Awn at Grist tra mae E'n gwahodd,
 Ufuddhawn i'w alwad fwyn;
 Rhoddwn ein hymddiried ynoddo,
 Yna i'r noddfa cawn ein dwyn;
     Iesu'n unig
 Sydd yn para'r un o hyd.[1]


Cyfeiriadau

  1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), tt.12-14.