Richard Jones (Gwyndaf Eryri)
(Ailgyfeiriad o Gwyndaf Eryri)
Ganwyd Richard Jones (Gwyndaf Eryri), (1785-1848) yn Erw Ystyffylau, plwyf Llanwnda, yn fab i John a Margaret Jones. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanbeblig. Enillodd ei fara trwy amaethu ac fel saer maen, ond daeth i amlygrwydd fel eisteddfodwr llwyddiannus os hunan-addysgiedig. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon 1821 am awdl ar y testun Cerddoriaeth, a thlws y Gwyneddigion yn Eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar Lles Gwybodaeth, ymysg gwobrau eraill. Ym 1818 cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, sef Peroriaeth Awen. Roedd hefyd yn gerddor mewn band y fintai o wirfoddolwyr a gynhelid gan yr Arglwydd Newborough.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.476