Ffatri wlân Bryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Ffatri Pen-y-bont)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin wlân oedd Ffatri Bryn, Llanllyfni, neu i roi hen enw'r ardal iddi, Penbryn Ffatri.[1] Yr enw gwreiddiol, fodd bynnag, oedd Ffatri Pen-y-bont. Credir i'r adeilad gael ei godi ym 1806 gan fod carreg ar yr adeilad yn nodi hynny. Y perchnogion cyntaf, mae'n debyg, oedd E. Williams, Jane Jones a John Thomas. Rhannai Ffatri wlân Bryn yr un ffrwd felin i yrru ei pheiriannau â Gwaith llechi Dorothea oedd gerllaw. Safai'r ddwy felin ar ochr ogleddol Afon Llyfni, ac mae'r ddau adeilad yn dal i sefyll, er eu bod wedi eu hailadeiladu'n sylweddol. Erbyn 1900 mae'n debyg fod Ffatri Bryn wedi cymryd adeiladau Gwaith Dorothea drosodd. [2]

Mae'n debyg fod y ffatri wedi ei henwi ar ôl fferm Bryn Castell gerllaw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan nantlle.com [1], cyrchwyd 19.9.2023
  2. http://www.coflein.gov.uk/en/site/411187/details/bryn-woollen-factorypenybont-factory Comisiwn Henebion Cymru, gwefan Coflein