Eglwys San Siôr, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
bedyddfaen o ithfaen Trefor

Syniad George Farren, pensaer hyfforddedig a rheolwr Chwarel yr Eifl (a oedd yn eiddo i'r Cwmni Ithfaen Cymreig), oedd adeiladu Eglwys San Siôr, Trefor. Ef gynlluniodd yr eglwys, talodd am ei hadeiladu a sicrhaodd bod y cerrig nadd gorau o'r chwarel yn cael eu defnyddio i'w hadeiladu. Ei wraig, Rebecca Farren, a osododd y garreg sylfaen. Agorwyd yr eglwys ym 1881 ac fe'i caewyd yn 2011. Yn yr eglwys roedd bedyddfaen o ithfaen gaboledig, rhodd gan Augustus Henry Wheeler, olynydd George Farren fel rheolwr Chwarel yr Eifl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma