Dinas Franog

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Dinas Efrog)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn cofnodion rhwng 1757 a 1839 ceir sawl cyfeiriad at le o'r enw Dinas Franog ar dir Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda. Hawdd yw egluro'r elfen gyntaf, sef dinas, yn golygu caer neu amddiffynfa. Ymddengys mai ansoddair yw'r branog yn yr ail elfen. Ni nodir branog yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond yng ngeiriadur William Owen Pughe (1832) ceir branawg a'i ystyr medd Pughe yw 'o natur brân'. Nid oedd damcaniaethau Pughe ar dir cadarn bob amser yn sicr, ond os yw ei ddehongliad yn gywir, gallai branog gyfeirio at rywle lle byddai brain yn ymgasglu neu fe allai fod yn enw dirmygus ar rywle sydd wedi mynd a'i ben iddo ac yn addas i ddim ond brain. Ym 1793-5 cyfeiriodd yr hynafiaethydd Peter Bailey Williams at Dinas Efrog or Franog near Collfryn in Llandwrog. Er bod y Collfryn dan sylw, sef Collfryn Mawr ym mhlwyf Llandwrog a Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda, mae'r ddau dŷ yn ddigon agos at ei gilydd (gydag ond rhyw ddau gae rhyngddynt, y naill yn wynebu'r llall ar draws dyffryn bas Afon Carrog). Cyfeiriodd W. Gilbert Williams hefyd at y lle fel 'Dinas Efrog neu Franog', ond cyfeiriodd ato hefyd fel 'Dinas Ffranog' gan ddweud ei bod yn 'ddinas Rufeinig' (caer mae'n debyg) ar lan Afon Carrog.[1]

Erbyn tua 1840, mae'r enw yn cael ei gofnodi fel Dinas Fawnog[2]; dichon bod pobl erbyn hynny'n ceisio canfod ystyr mewn enw rhyfedd - ond mae lleoliad y safle, ar lan afon yn yr iseldir, yn annhebygol o fod yn dir mawnog. Mae'r safle'n cael ei nodi ond heb ei enwi ar fap Ordnans cyntaf yr ardal sydd ar raddfa ddigon mawr i ddangos pob manylion, a hynny ym 1888. Dangosir ar y map hwnnw ddarn hirsgwar o dir gyda chloddiau neu lethrau ar ddwy ochr. Bron i ganrif ynghynt, soniodd Peter Bailey Williams bod y dinas hwn yn 30 llath wrth 70.[3]

Efallai oherwydd effeithiau erydiad a/neu aredig (mae'r dogfennau degwm yn dweud fod y cae a enwyd yn Dinas Fawnog ynddynt yn dir âr) mae'r safle yn hollol ddisylw heddiw, ac ni sonnir am Ddinas Franog yn rhestr henebion y plwyf.[4] O ran ei safle, nid yw'n amlwg yn safle addas ar gyfer amddiffynfa effeithiol. Gan ei fod yn agos at safle Dinas y Prif, a oedd yn wersyll Rhufeinig, efallai y gellid ystyried Dinas Franog fel gwaith ymarfer technegau codi amddiffynfeydd a wnaed gan y Rhufeiniaid.

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.138-9.
  2. Caeau rhifau 588 a 589 ar Fap Degwm plwyf Llanwnda (LlGC)
  3. P.B. Williams, The Tourists's Guide through the County of Caernarvon (Llyfrau Google) [1], cyrchwyd 14.3.2024
  4. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.225