Côr Eglwys Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Côr Eglwys Llanllyfni yn bodoli ers o leiaf hanner cyntaf y 19g., a'r clochydd, Robert Ellis (Llyfnwy) yn ei arwain am flynyddoedd lawer hyd ei farwolaeth ym 1872.[1] Prif bwrpas y côr oedd ychwanegu at wasanaethau yn Eglwys Llanllyfni trwy arwain y canu a chanu anthemau eu hunain, a pharhaodd y côr wedi i Robert Ellis farw. Dichon hefyd i'r côr fod yn cyfrannu'n sylweddol at y plygain a gynhelid (ac y cynhelir hyd heddiw) yn yr eglwys. Ceir cofnod o'r côr, ynghyd â chôr Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn, yn mwynhau swper a drefnwyd iddynt gan y rheithor, y Parch. E. Davies, ym 1874.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Drych, 13.9.1877, t.2
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 17.1.1874, t.6