Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Ceridwen Llyfnwy)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o’r ychydig ferched i farddoni ac wedyn ceisio cyhoeddi peth o’i gwaith oedd Alice Griffith (1842-1916) (Thomas gynt) a fabwysiadodd yr enw barddol “Ceridwen Llyfnwy”. Eithriad oedd iddi roi ei henw arferol wrth droed cerdd o’i gwaith yn y cylchgronau a gyhoeddai ei cherddi.

Merch ydoedd i John Thomas, chwarelwr llechi a aned ym 1821, a’i wraig Alice (g.1819). Cawsant o leiaf 4 merch a 3 mab. Alice oedd y plentyn hynaf, ac ar y pryd roedd y teulu’n byw yng Nghoedcaedu, Llanllyfni, cyn symud i Glan-y-ddôl, hefyd ym mhlwyf Llanllyfni, ger Pont Ffatri. Tua 1870, priododd Alice â William Griffith, chwarelwr llechi a aned ym Mhenmorfa ac a oedd chwe blynedd yn iau na hi, a chawsant dri mab, Griffith, Albert a John. Mae’n bur debyg ei bod wedi priodi o’r blaen - neu wedi cael plentyn siawns - gan fod Owen Owens, mab 3 oed iddi, yn byw efo’r cwpl ym 1871. I ddechrau roedd y cwpl wedi ymgartrefu yng Nghoedmor, pentref Tal-y-sarn ond rywbryd cyn 1891 roeddynt wedi symud i Res Glan-y-ddôl, bron y drws nesaf i’w mam a oedd erbyn hynny wedi colli ei gŵr. Ym 1901, mae’r Cyfrifiad yn nodi eu cyfeiriad fel “Church Road” ond ei mam, yn weddw 83 oed erbyn hynny, yn dal i fyw yn Glan-y-ddôl. Erbyn 1911, roedd Alice Griffith wedi colli ei gŵr hithau, ac yn lodjio gyda theulu Morris yn 35 Ffordd y Sir, Pen-y-groes.[1] Bu farw fis Mawrth 1916 yng Nghaernarfon, a'i chladdu ym Mynwent Macpelah.[2]

Nid yw’n hysbys pryd yr aeth hi ati i farddoni’n gyhoeddus trwy anfon ei gwaith at bapurau a chylchgronau. Ceisiodd ddefnyddio’r mesurau caeth, ond heb fawr o lewyrch. Sylw golygydd barddol Y Werin am englyn nas argraffwyd a anfonwyd ganddi hi at y papur oedd “Nid oes yr un llinell gywir yn yr englyn hwn”.[3] Roedd hi’n fwy llwyddiannus ymhen pymtheng mlynedd pan gyhoeddwyd englyn neu gywydd o’i heiddo ar destun “Ysgol Jacob” yn rhifyn eisteddfodol Y Geninen, 1905. [4]

Efallai ei bod hi ar dir cadarnach wrth lunio cerddi mydryddol gydag odlau yn hytrach nag ymdrechu efo’r gynghanedd. Er enghraifft, cyhoeddodd yr hyn a alwodd yn alareb i goffáu ei thad ym 1891.[5] Mae’r gerdd, er nad yw’n codi i unrhyw uchelfannau, yn osgoi gor-sentimentalrwydd ac yn amlygu ei ffydd Gristnogol gadarn. Fis yn unig ar ôl hyn, roedd cerdd arall o'i heiddo yn cael ei chyhoeddi, yn galaru y tro hwn ar ôl un o’i meibion, D. Michael Williams, Tŷ’n Llwyn, Llanllyfni.[6]

Mae’r gerdd isod ar destun llai trist ac yn ddifyr oherwydd ei bod yn amlygu ei dull o ysgrifennu ac efallai yn dangos hefyd hyd a lled ei thalent.

YMSON Y CYMFFYRCH. 
(Buddugol yn Nghyfarfod Llenyddol Tan’rallt, Nantlle.) 

Tra'n eistedd mewn unigedd
Dro'n ôl ryw hafaidd hwyr, 
Ar fron y Cymffyrch uwch y Nant, 
Ymgollais yno'n llwyr; 
Disgynnais i ber lewyg, 
Daeth dros fy llygaid len, 
A chlywais ryw ddieithriol lais 
Yn siarad uwch fy mhen: 
Llais ysbryd hen y mynydd 
Mi goeliaf ydoedd hwn,  — 
A glywodd rhywun arall ef 
Erioed o'r blaen, nis gwn. 
Diddorol oedd ei wrando 
Yn adrodd pethau fu 
Yn newid gwedd, a dwyn i fri 
Ein Dyffryn enwog cu.
Medd ef :—" Yr oedd Nant Nantlle 
Ganrifoedd maith yn ôl, 
Yn llawn prysglwyni diffaith iawn, 
Heb ffordd, na gwerddlas ddôl; 
Gwylltfilod a'i meddiannent, 
Ac yma 'roedd eu tref, 
Croch udfa'r blaidd a glywid gynt 
Bob hwyr ohono ef: 
Er hynny 'roedd prydferthwch 
Yn eiddo ef pryd hyn ; 
Tlws oedd yr Afon rhwng y coed, 
Ond tlysach y ddau Lyn." 
Cychwynna ei hanesiaeth 
Yn nyddiau Hywel Dda, 
Pan ddeuai'r pendefigion gwych 
I'w hela Ha' 'rôl Ha'; 
Dychrynid y gwylltfilod 
Wrth leisiau'r cyrn a'r cŵn, 
Ac i'w llochesau ffoent ar frys 
Rhag eu dieithriol sŵn. 
Ti glywaist y traddodiad, 
Gwarantaf mai gwir yw, 
I'r Brenin Iorwerth Gyntaf fod 
Yn Nantlle'n hapus fyw. 
Bu aml ymladdfa waedlyd 
O ddeutu lawer tro, 
Ffrwyth ffôl gynhennau dall, dibwys, 
Bonheddwyr mawr y fro; 
Ond llawer gwell nag ymladd 
Yw gweled dôl a bryn, 
Dan law celfyddyd wedi eu dwyn, 
I'r wedd sydd erbyn hyn: 
Dechreuodd wneud bythynnod 
Gwyngalchog ar ei ael, 
A thynnu wnaeth drysorau cudd 
O'i fawrion goffrau hael; 
Cynhyrchion hen ei fynwes, 
Sy'n awr ar led y byd, 
Yn llechau gwerthfawr, teg eu lliw 
Yn toi'r anheddau clyd. 
Amrywiol, a deniadol 
Dros ben yw'r golygfeydd, 
Tomenni ar domenni ban, 
Gyfodwyd o'i gloddfeydd; 
Brenhines yr Eryri 
Sy'n gwylio Drws y Coed, 
A'r hen fynyddoedd eraill sydd 
Fel deiliaid gylch ei throed. 
Pentrefi sydd oddeutu — 
Cartrefi gweithwyr lu, 
Y rhai dramwyant fore a hwyr, 
Yn llon ei lwybrau cu. 
Aeth cenedlaethau lawer, 
I'w beddau, er y pryd — 
Y daeth y Dyffryn bach yn rhan 
O'r gwareiddedig fyd; 
Bu rhai o wir enwogion 
Y Genedl yma'n byw, 
Yn weinidogion amlwg iawn, 
O dan arddeliad Duw; 
Tra mynydd yn Eryri, 
Atgofion parchus fydd 
O'r teulu enwog fu yn byw 
Yn hen amaethdy'r Ffridd;
Ac enw nad anghofir
Yn Nghymru hyd y farn, 
Yw enw'r cawr bregethwr roes 
Enwogrwydd ar Dal'sarn. 
Mae gwawr ar dorri eto, 
I'r broydd enwog hyn, 
Agorir afon Llyfnwy deg, 
A sychir y ddau Lyn; 
Fe gloddir o'i gudd-greigiau 
Drysorau yn ystôr, 
A chludir yr ysbwriel oll, 
I'w gladdu yn y môr." 
Y rhyfedd lais ddistawodd, 
Dadebrais innau'n syn; 
A rhedais wedyn heb ymdroi 
I mewn i'm bwthyn gwyn. 
Llanllyfni.                   Ceridwen Llyfnwy.[7]


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1861-1911
  2. Yr Herald Cymraeg, 28.3.1916, t.7
  3. Y Werin, 23.8.1890, t.2
  4. Y Cymro, 10.8.1905, t.3
  5. Y Frythones, Cyf.XIV, 11 (Tachwedd 1891), tt.3-4
  6. Y Frythones, Cyf.XIV, 11, (Tachwedd 1891), tt.325-6
  7. Cyfaill yr Aelwyd a’r Frythones, Cyf.I, 2, Chwefror 1892, tt.xi-xii