Brigantîn yr ''Ion''

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr Ion oedd yr olaf o dair llong y gwyddys amdanynt a godwyd yn Nhrefor, a'r fwyaf o ddigon. Fe'i hadeiladwyd ym 1874 gyda dau fast yn cario hwyliau ôl a blaen a sgwarsl (hwyl sgwâr); brigantîn yw'r enw am long gyda rigin o'r fath. Roedd hi'n 230 tunnell o ran tunelledd. Ei hadeiladydd oedd H. Thomas. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer perchnogion yng nghylch Lerpwl ac fe'i gwerthwyd ym 1884 i berchnogion o Norwy.[1]

Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206