<mediawiki xmlns="http://www.mediawiki.org/xml/export-0.11/" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" xsi:schemaLocation="http://www.mediawiki.org/xml/export-0.11/ http://www.mediawiki.org/xml/export-0.11.xsd" version="0.11" xml:lang="cy">
  <siteinfo>
    <sitename>Cof y Cwmwd</sitename>
    <dbname>uwchgwyr_wici</dbname>
    <base>https://cof.canolfanuwchgwyrfai.cymru/wici/Hafan</base>
    <generator>MediaWiki 1.43.1</generator>
    <case>first-letter</case>
    <namespaces>
      <namespace key="-2" case="first-letter">Media</namespace>
      <namespace key="-1" case="first-letter">Arbennig</namespace>
      <namespace key="0" case="first-letter" />
      <namespace key="1" case="first-letter">Sgwrs</namespace>
      <namespace key="2" case="first-letter">Defnyddiwr</namespace>
      <namespace key="3" case="first-letter">Sgwrs Defnyddiwr</namespace>
      <namespace key="4" case="first-letter">Prosiect</namespace>
      <namespace key="5" case="first-letter">Sgwrs Prosiect</namespace>
      <namespace key="6" case="first-letter">Delwedd</namespace>
      <namespace key="7" case="first-letter">Sgwrs Delwedd</namespace>
      <namespace key="8" case="first-letter">MediaWici</namespace>
      <namespace key="9" case="first-letter">Sgwrs MediaWici</namespace>
      <namespace key="10" case="first-letter">Nodyn</namespace>
      <namespace key="11" case="first-letter">Sgwrs Nodyn</namespace>
      <namespace key="12" case="first-letter">Cymorth</namespace>
      <namespace key="13" case="first-letter">Sgwrs Cymorth</namespace>
      <namespace key="14" case="first-letter">Categori</namespace>
      <namespace key="15" case="first-letter">Sgwrs Categori</namespace>
    </namespaces>
  </siteinfo>
  <page>
    <title>Hafan</title>
    <ns>0</ns>
    <id>1</id>
    <revision>
      <id>16938</id>
      <parentid>16923</parentid>
      <timestamp>2026-06-08T09:03:13Z</timestamp>
      <contributor>
        <username>Irion</username>
        <id>3</id>
      </contributor>
      <origin>16938</origin>
      <model>wikitext</model>
      <format>text/x-wiki</format>
      <text bytes="7042" sha1="n6y5hp03djf6wb89zw67006d8wamoym" xml:space="preserve">[[Delwedd:Cof-y-cwmwd.png|900px|alt=Cof y Cwmwd | Cronfa helaeth o ffeithiau am hanes Uwchgwyrfai y gall unrhyw un gyfrannu ati]]

{| style="width:100%; background:#1e2b33; color:#fff; padding:5px; text-align:center;" 
|
|&lt;span style="font-family: trevor, sans-serif; font-size: 1.5em;"&gt;"Anghofio yw Bradychu"&lt;/span&gt;
|}



[[Delwedd:Dyffryn nantlle o lôn eifion.jpg|bawd|de|500px|Dyffryn Nantlle o Lôn Eifion.]]
	
 {| style="float:chwith; border-style: solid; border-width:8px; border-color:#960018; padding:5px;width:450px; background:#8AAAA5 " 
|'''DIOLCH AM EIN CEFNOGI'''&lt;br&gt;

Fel y gwelir o'r dywediad gan Saunders Lewis, "Anghofio yw bradychu", rhaid cofio ein hanes neu rydym mewn perygl o fradychu'r rhai sydd wedi mynd o'n blaenau. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn gwneud hyn trwy gynnig i chi dros 1850 o erthyglau, bach a hir, am hanes gwmwd [[Uwchgwyrfai]].

Er bod meddalwedd y '''Cof''' yn rhadwedd, sef y cawn ni yn ei ddefnyddio am ddim, rhaid cynnal dilysrwydd a diogelwch y wefan, talu am ein lle ar y We ac ati - ac mae hyn oll yn costio. Rydym felly yn hynod o ddiolchgar i'n noddwyr, sef Elusen Park-Jones ac i holl gynghorau cymuned y fro - ac felly i chi, drigolion y cwmwd - am ein helpu i gadw ymwybyddiaeth o hanes ein hardal yn fyw, a hynny trwy i'ch cynghorwyr neilltuo cyfran fach iawn ond gwerthfawr o'ch trethi lleol at ein cefnogi. Diolch i chi i gyd.



|}





&lt;big&gt;'''Croeso i ''Cof y Cwmwd''.  Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl [[Uwchgwyrfai]] a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.''' &lt;/big&gt;

Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd. 

[[Delwedd:scan0003.jpg|300px|de|Uwchgwyrfai]]

Mae '''Cof y Cwmwd''' yn ymdrin ag ardal [[Uwchgwyrfai]], gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol '''[[Clynnog Fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]]''' a '''[[Llanwnda]]'''; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern [[Betws Garmon]]. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys '''[[Dyffryn Nantlle]]''' i gyd ac ochr Gorllewinol [[Dyffryn Gwyrfai]] o'r môr i lan [[Llyn y Gader]]. 
'''Cof y Cwmwd''' yw un o weithgareddau [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]]. Cewch fwy o wybodaeth am '''Cof y Cwmwd''' wrth glicio [[Prosiect:Amdanom|'''yma''']]. 

'' '''Diolch i'n noddwyr presennol am sicrhau parhad y wefan, ac hefyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu'r gwaith o'i sefydlu.''' ''




== Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau ==
[[Delwedd:sbectol.png|60px|chwith]]
Defnyddiwch y blwch ''Chwilio'' ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch ''Holl gategorïau'' ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch [[Prosiect:Ffynonellau eraill|'''yma''']] i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

'''NEU BETH AM...''' ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar '''Tudalen ar hap''' ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu 

==Diweddariadau ac ychwanegiadau diweddar==
Mae'r erthyglau isod ymysg y rhai sydd wedi eu hehangu neu eu cywiro'n ddiweddar:
*[[Henry Williams]] yr apothecari o'r Erw-wen: manylion am ei deulu
*[[Abraham Williams]] y porthmon o Lyn-y-gele: mwy am ei fab
*[[Dolydd]]: hanes y tanerdy cynnar ym Mhlas Dolydd
*[[Melin Forgan]]: manylion am ei hanes cynnar ac am y perchnogion
*[[Tafarn y Boar's Head]]: mwy o'i hanes

== Erthyglau newydd ==
[[Delwedd:Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl.JPG|bawd|800px|de|Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl]]
{{Special:Newestpages/-/25}}

Cyfanswm: {{NUMBEROFARTICLES}} erthygl

Mae'r teitlau uchod sydd mewn ''llythrennau italig'' yn ddolennau sy'n arwain at erthyglau am bynciau sydd ag erthyglau amdanynt dan deitl arall.

==[[Cyfrannu at Cof y Cwmwd|Sut i ychwanegu gwybodaeth]]==
Gwefan gydweithredol yw '''Cof y Cwmwd''' a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we. Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.

[[Delwedd:UwchgwyrfaioRosgadfan.jpg|bawd|350px|de|Uwchgwyrfai o Rosgadfan]]

Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch [[Cyfrannu at Cof y Cwmwd|'''yma''']].

'''Yn fwy na dim, mentrwch!''' ''Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl i ni ei wrthdroi.'' ''' ''Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau'' '''.

== Iaith Cof y Cwmwd ==

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw '''Cof y Cwmwd'''. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar [http://cy.wikipedia.org/wiki/Hafan Wicipedia Cymraeg] - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Mae enwau lleoedd yn tueddu cael eu sillafu mewn sawl ffordd ac yr ydym ni wedi safoni'r sillafiad er mwyn i'r mynegai weithio'n iawn. Cewch weld y manylion trwy glicio [[Prosiect:Sillafiad enwau|yma]]. Os oes enw Cymraeg ar rywle yn Lloegr neu y tu draw, yr enw Cymraeg a ddefnyddir. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau '''Cof y Cwmwd''' trwy ddefnyddio Google Translate.



== [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] ==

[[Delwedd:YGanolfan.jpg|350px|de]]

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]] sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy [[Eben Fardd]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr yn Arfon]].

Elusen gofrestredig yw [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]]. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i [https://canolfanuwchgwyrfai.cymru/ brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai] am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

==A oes gennych sylwadau?==
Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm '''Sgwrs''' ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â gweinyddwyr '''Cof y Cwmwd''' trwy yrru e-bost gan glicio [mailto:cofycwmwd@gmail.com '''yma''']



{{cyfeiriadau}}
[[Delwedd:Harbwr Trefor 2.jpg|bawd|chwith|1045px]]

[[Categori:Gweinyddiad Cof y Cwmwd]]</text>
      <sha1>n6y5hp03djf6wb89zw67006d8wamoym</sha1>
    </revision>
  </page>
</mediawiki>
