Tal-y-mignedd Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.

Mae Tal-y-mignedd Uchaf yn fferm ym mhlwyf Llanllyfni ar ochr ddeheuol rhan uchaf Dyffryn Nantlle ar lethrau Mynydd Tal-y-mignedd. Roedd yn rhan o Ystad y Faenol erbyn ail hanner y 18g., ac ar ei thir fe ddatblygwyd Gwaith copr Simdde'r Dylluan yn y 18-19g. Ceir manylion am y fferm a'i pherchennog ym 1684 pan ysgrifennodd Humphrey Owen, iwmon o Dalymignedd Uchaf, ei ewyllys. Gadawodd arian neu nwyddau sylweddol i'w wraig, Margaret ferch Evan a'i blant iau, Edward, Margaret, Rees, Robert, Evan ac Angharad (gwraig James David, Gelli-ffrydiau, ac yn fam i Angharad James, y bardd o Ddolwyddelan). Cafodd ei fab hynaf, Owen Humphrey, y fferm ei hun, a gadawyd £1.19.0 i'w ferch Alice, a £4 y pen i blant iau Owen, Michael ac Ann. Rhaid bod Humphrey Owen yn weddol gefnog gan iddo adael bron i £60 i gyd i'w deulu, a hynny mewn arian parod - swm sylweddol ar adeg pan oedd buwch ond yn werth tua £1.10.0. Roedd ganddo stoc sylweddol ar y fferm: 50 o wartheg, dau geffyl, 85 dafad a 26 gafr. Rhwng popeth, roedd ganddo werth bron i £100 o anifeiliaid a chelfi tŷ. Chwe mlynedd yn ddiweddarach pan fu farw ei weddw, Margaret ach Ifan, roedd maint y stoc yn dal yn debyg: 32 o wartheg a 94 o ddefaid - ond dim geifr![1]

Tua 1800, Evan David oedd y prydlesai, ac yn ffermio'r tir. Cododd hwnnw ddau feudy newydd at y tri oedd yno eisoes, ynghyd â stabl ger y tŷ fferm. Yn ôl adroddiad arolygwr yr ystad, roedd popeth wedi ei gadw mewn cyflwr da gan Evan David. Tir pori oedd bron y cwbl, dim ond ychydig dros ddwy acer yn cael eu haredig. Roedd llawer iawn o goed derw ar y tir, peth coed ynn ac ychydig o goed bedw. Nodai'r asiant yr adeg hynny fod y tenant yn defnyddio coed ar y tir mewn dull braidd yn rhy barod.[2] Tybed ai cael gorchymyn gan y landlord i ail-blannu coed arweiniodd Walter Davies (Gwallter Mechain) i gyfeirio at blannu 2,000 o goed derw ‘mewn lleoliad uchel iawn' ar fferm Tal-y-mignedd ym 1810.[3]

Erbyn 1841, Anne Williams, dynes 35 oed gyda thri o blant oedd yn ffermio yno.[4] Tua'r flwyddyn honno, pan wnaed y rhestr ddegwm, roedd 670 o aceri yn rhan o'r fferm. Thomas Assheton Smith, Ystad y Faenol oedd y perchennog ac Owen Jones oedd y ffermwr - mae'n debyg mai Anne Williams oedd honno ac wedi priodi - gan fod ei dau fab â chyfenw Evans, a'r ferch ifanc yn Williams. Er bod y fferm yn cynnwys rhyw 670 o aceri, roedd 588 o'r rheiny'n ffridd agored a thir creigiog y mynydd uwchben y fferm. Roedd gweddill y tir wedi ei rannu'n nifer o gaeau: Cae Bach, Weirglodd y tŷ, Weirglodd y Mafod, ?Gwern y Glyder, Cae'r Tŷ Coch, Ffridd y Wengoch, Y Wern Goch, Cae bach (sef "Cae Bach" arall) a Ffridd y Cochion.[5] Erbyn 1851, roedd Anne Williams yn cael ei nodi yn y Cyfrifiad fel gwraig weddw mwynwr copr, a'i dau fab, 16 ac 13 oed, yn fwynwyr copr. Roedd hi a'r plant wedi symud i dŷ ar dir Tal-y-mignedd Isaf, ac roedd ffermwr newydd yn Nhal-y-mignedd Uchaf, sef Henry Jones, 51 oed. Roedd 6 o blant ifanc ganddo, ac er cymaint oedd maint y fferm, dim ond un gwas, Richard Williams, oedd yn cael ei gyflogi ganddo. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ac yntau'n 70 ac yn ŵr gweddw, roedd un o'i feibion yn gweithio ar y fferm gydag ef, yn ogystal â dau was.[6] Erbyn 1891, Griffith Jones, 50 oed oedd y ffarmwr a'i fab hynaf, Griffith Owen Jones, 17 oed, yn fugail y fferm. Un gwas oedd yno, ac yn ddigon diddorol, John Wilson o Gaer, oedd hwnnw - er nad oedd gweddill y teulu ond yn siarad Cymraeg![7] Yr oedd Griffith Jones yn dal yno ym 1911, a'i fab Henry yn gweithio ar y fferm hefyd - er nad oedd y mab hynaf, Griffith Owen, yno,[8] ac roedd o'n dal yno'n ffarmwr ym 1939.[9]

Dylid cofio bod Tal-y-mignedd Isaf yn fferm ar wahân ar waelod Dyffryn Nantlle, ac a oedd yn rhan o Ystad Pant Du yn y cyfnod modern, er bod y ddau ansoddair Isaf ac Uchaf yn tueddu i awgrymu mai un eiddo oeddynt ar un adeg, efallai cyn i'r arferiad o adael tir i'r mab hynaf yn unig ddod i rym yn gynnar yn yr 16g.


Cyfeiriadau

  1. LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1684/51 W & I; B1690/72 I
  2. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800 (Caernarfon, 1973), t.54
  3. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon/ Nantlle – Ardal 42 Llethrau uchaf Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 15.01.2021
  4. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1841
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhestr Bennu'r Degwm, plwyf Llanllyfni [2], cyrchwyd 15.01.2021
  6. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1851 a 1871
  7. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891
  8. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1911
  9. Cofrestr Cyngor Dosbarth Gwyrfai, 1939