Richard Ellis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.

Roedd y Parch. Richard Ellis (1730-1805) yn Ficer Clynnog Fawr a Llanaelhaearn, gan ddilyn ei dad-yng-nghyfraith, y Parch. Richard Nanney, Cefndeuddwr, a ficer Clynnog Fawr, ar ôl marwolaeth hwnnw ym 1768. Arhosodd yn ficer ar y plwyfi hynny hyd ei farwolaeth. Fe'i ddilynwyd gan y Parch. John Williams, B.A.

Roedd yn ddisgynnydd i deulu Ellis, Bodychen, Clynnog Fawr. Ei rieni oedd David Ellis, M.A., Rheithor Llanengan, a Catherine Hughes a oedd yn ferch Zachaeus Hughes, Trefan, Llanystumdwy. Cafodd Richard Ellis a'i wraig bedwar mab ac un ferch. Eu mab hynaf oedd David Ellis Nanney, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru (a fu farw ym 1819 yn 60 oed) - y cyntaf o'r teulu i gyfuno cyfenwau'r ddwy ochr o'r teulu a ffurfio llinach Ellis-Nanney.[1]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.t.164-5