Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.

Mae gwreiddiau Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle yn mynd yn ôl ymhell, gan fod lluniau ar gael o'r aelodau wrth iddynt ymweld â safleodd hanesyddol lleol yn yr ardal mor gynnar â 1932. Erbyn heddiw, mae'r gymdeithas yn cyfarfod yn fisol ym Mhen-y-groes i wrando ar ddarlithoedd ar bynciau hanes lleol, a threfnir ambell i wibdaith hefyd. Mae'r gymdeithas yn cynnwys Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes yn eu rhaglen bob blwyddyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma