Marged Uch Ifan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:20, 5 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Marged Uch Ivan, neu Margaret ferch Evan ac hefyd Peggy Evans yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, Nantlle.

Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd ei hanesion ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose, yr oedd hi’n medru gwneud llawer gyda’i llaw ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i ymwelwyr. Yr oedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Yr oedd hi wedi gwneud enw i’w hyn fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y bennill isod ar ei charreg fedd;

Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,

Could wrestle, row, fiddle and hunt and fox too

Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells

That would charm your two ears – had there been any bells!

Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,

Commanded the saw-pit, and wielded the saw,

And though shes departed where you cannot find her

I know she has left a few sisters behind her.”

Ffynhonnell

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).