Tal-y-mignedd Isaf
Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons, fel rhan o Ystad Pant Du a pharhaodd felly tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys. Y
Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]