Tal-y-mignedd Isaf
Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons, fel rhan o Ystad Pant Du.