Cei Trefor
O'r dechreuadau cynnar yn y 1840au, ar y môr y cludwyd ithfaen o'r chwarel yn Nhrefor ; setts, balast, cerrig i naddu ayyb i ddinasoedd mawrion tu hwnt i glawdd Offa. Adeiladwyd Cei Trefor o bren i hwyluso'r trafnidiaeth yn 1912. Gosodwyd cledrau ar hyd y cei er mwyn i dryciau gyrraedd ochr llongau i'w llwytho'n syth o'r chwarel, er na chanieteid i'r injians stêm a ddefnyddid ar brif lein Rheilffordd Chwarel Trefor fentro arno.
Yn y 1930au adeiladwyd ffordd newydd (syth) i bentref Trefor, a chynyddodd defnydd lorïau i gario'r ithfaen o'r Gwaith fel canlyniad.
Tynnwyd y Cei i lawr yn 2017 gan adael y morglawdd o garreg yn unig fel glanfa. [[]Delwedd:Chwalu pier trefor.jpg|bawd|chwith|400px|Chwalu'r hen gei pren (hawlfraint: Commercial Boat Services)]]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma