R. Silyn Hughes
Hanai R. Silyn Hughes (1933-2006) o bentref Tal-y-sarn yn wreiddiol er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i fywyd fel oedolyn yn Ardudwy. Roedd o'n fab i Robert Hughes, crydd yn Nhal-y-sarn, ac yn gefnder i Arthur Ffestin Hughes, y polymath swil o bentref Llanllyfni.
Bu'n athro ysgrythur ysbrydoledig yn Ysgol Ardudwy cyn symud i Goleg Harlech fel darlithydd yn dilyn Dafydd Elis Thomas ym 1971. Bu hefyd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i achub Y Las-ynys, cartref Ellis Wynne yn Nhalsarnau.
Mae'r actores a'r awdures, Llio Silyn, yn ferch iddo.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol