Pont Lan Môr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:58, 14 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont droed dros Afon Tâl yw Pont Lan Môr, Trefor erbyn hyn.

Yn wreiddiol roedd pont llawer lletach a chadarnach ar y safle, ger y fan lle mae'r afon Tâl yn ymarllwys i'r môr. Dros y bont honno, pan oedd Chwarel yr Eifl yn gweithredu yr ai'r loco bach a'r wagenni, ac yn ddiweddarach y lorïau trymion, a gludai'r cerrig i lawr yr inclên o'r chwarel i'r hopar lle byddai'r cerrig yn cael eu cadw mewn biniau enfawr cyn eu llwytho i'r llongau wrth y cei pren. Roedd sylfaen y bont wreiddiol wedi'i wneud o drawstiau haearn gyda sliperi rheilffordd wedi eu gosod drostynt. Roedd iddi ganllawiau haearn cadarn gweddol uchel bob ochr gyda'r afon tua phymtheg troedfedd islaw iddi. Ar ôl i'r chwarel gau ym 1971 dirywiodd y bont yn raddol gyda'r sliperi'n pydru a dadfeilio. Felly, rai blynyddoedd yn ôl, pan wnaed gwaith tirlunio yno, gyda'r hopar ac adeiladau eraill yn cael eu dymchwel a waliau cynnal newydd yn cael eu hadeiladu, dymchwelwyd y bont wreiddiol a gosod pont droed gadarn yn ei lle dros yr afon. Roedd hyn hefyd er mwyn rhwystro cerbydau rhag croesi'r afon yno. Mae'r bont ar Lwybr Arfordir Cymru erbyn hyn.[1]


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol