Bedd Gwenan, Tyddyn Elen a Rhos Maelan
Gwahanol annedd-dai yw Bedd Gwenan, Tyddyn Elen a Rhos Maelan – oll o fewn cyffiniau plwyfi Llanwnda a Llandwrog.
Y mae hen stori am y tair merch yma, a ddaeth drosodd i’r tir mawr o Gaer Arianrhod i gyrchu dŵr pan ddaru’r ynys gael ei boddi. Gyda dim cartref i fynd ôl iddi, ymsefydlodd y dair yn yr ardaloedd hyn, gan adael eu henwau yno.
Ffynhonnell
Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011).