Bwlch yr Eifl
Am ganrifoedd lawer bu Bwlch yr Eifl yn lle pwysig ar lwybr gogleddol y pererinion o gyfeiriad Eglwys Gadeiriol Bangor i Ynys Enlli.
Mae'r bwlch hwn rhwng y copa agosaf i'r môr (Garnfor neu Mynydd y Gwaith) a'r copa canol (Garn Ganol) o dri chopa'r Eifl. Mae dringfa bur serth o bentref Trefor at y bwlch, ond yna mae'r llwybr yn mynd ar y goriwaered yn weddol rwydd nes dod i ben Nant Gwrtheyrn. Oddi yno gellir naill ai fynd i'r dde i lawr y ffordd droellog i'r Nant, neu ymlaen ar hyd llwybr gweddol wastad i gyfeiriad eglwys Pistyll. Ar eu pererindod i Enlli arferai llawer o'r pererinion aros dros nos ym mynachlog, neu glas, Clynnog Fawr, cyn mynd ymlaen dros Fwlch yr Eifl a threulio'r noson ganlynol naill ai ym Mhistyll neu ym mhriordy Nefyn. Yn ei Hanes y Daith trwy Gymru, a ysgrifennodd yn dilyn ei daith drwy'r wlad yng nghwmni'r Archesgob Baldwin o Gaer-gaint ym 1188, i geisio annog milwyr i ymuno â'r Trydydd Croesgad i ryddhau Jeriwsalem o afael y Moslemiaid, mae Gerallt Gymro'n nodi i'r fintai orffwyso yn Nefyn ar noswyl Sul y Blodau. Drannoeth fe wnaethant brysuro yn eu blaenau am Fangor, gan fynd drwy Fwlch yr Eifl, a oedd mor serth, meddai, fel y bu'n rhaid iddynt ddod oddi ar eu ceffylau a cherdded wrth eu hochrau rhag ofn codwm. Ac er nad yw'n enwi Clynnog, mae'n bosib iawn iddynt aros am ychydig yno cyn mynd yn eu blaenau i Gaernarfon.[1]
Erbyn hyn mae Bwlch yr Eifl ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae'n prysur adennill ei hen boblogrwydd gyda llawer iawn o gerddwyr, boed ar deithiau byr neu hir, yn ei droedio'n flynyddol.
Cyfeiriadau
- ↑ Gerallt Gymro, Hanes y Daith trwy Gymru (cyfieithiad Yr Athro Thomas Jones, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth), (Caerdydd, 1938), tt.126-9.