Ponciau Chwarel yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:02, 3 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Wyth o bonciau mawrion geir - yn swyddogol, felly - yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Dwy bonc oedd i'r chwarel gyntaf ar Graig y Farchas, ond mae'r chwarel honno o'r golwg ers cyn cof dan y Domen Fawr yn y Gorllwyn.

Yng nghofnodion y Cwmni, yn Saesneg yr enwir yr wyth bonc sydd i'w gweld ar ochr ogleddol mynydd Garnfor (Mynydd Gwaith ar lafar) a hynny'n ffurfiol ac oeraidd :

0 Bank / 1 Bank / 2 Bank / 3 Bank / 4 Bank / 5 Bank / 6 Bank / 7 Bank / 8 Bank

Enwau Cymraeg roddwyd arnynt gan y chwarelwyr :

(0 Bank) Bonc Dwll. Rhywle rhwng Bonc Dwll a Bonc Isa, yn gynnar iawn yn hanes y Gwaith, bu unwaith bonc arall heb rif arni. Yr enw roddwyd ar honno oedd Bonc Bennog, ond fe'i llyncwyd maes o law gan Bonc Dwll.

(1 Bank) Bonc Isa

(2 Bank) Bonc Ganol

(3 Bank) Bonc Drydydd

(4 Bank) Bonc Bach

(5 Bank) Bonc Newydd, a lyncodd maes o law Bonc Gynffon, a thyfu i fod y bonc fwyaf yn yr holl chwarel

(6 Bank) Bonc Gynffon

(7 Bank) Bonc Seithfed

(8 Bank) Bonc Wythfed

Dyma uchder chwech o'r ponciau uwch lefel y môr :

Bonc Dwll 560 troedfedd

Bonc Isa 640 troedfedd

Bonc Ganol 730 troedfedd

Bonc Drydydd 837 troedfedd

Bonc Bach 1,020 troedfedd

Bonc Newydd 1,100 troedfedd


Cyfeiriadau