Dôl Bebin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:45, 1 Rhagfyr 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfeirir at Ddôl Bebin yn chwedl Math fab Mathonwy, sef Pedwaredd Gainc y Mabinogi. [Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar y Bedwaredd Gainc a'i chysylltiadau â chwmwd Uwchgwyrfai.

Yn ardal Tal-y-sarn yr oedd Dôl Bebin yn ôl y stori ac arni y porai gwartheg gwyrthiol Pebin "yn sblander bore'r byd", a dyfynnu o gerdd adnabyddus R. Williams Parry, "Y ddôl a aeth o'r golwg". Merch i Pebin oedd y wyryf Goewin, yr oedd yr arglwydd Math yn cadw'i draed o fewn ei chôl nes iddi gael ei threisio gan Gilfaethwy, brawd y dewin Gwydion. Er i lanast a chreithiau'r diwydiant llechi orchuddio'r "ddôl ddihalog" honno, eto roedd yna ffermdy o'r enw Dôl Bebin ar y safle tan yn gymharol ddiweddar.